P-05-732– Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Charles Dodman ar ôl casglu 14 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

​Rwy'n galw ar Gynulliad Cymru i drafod a gweithredu mesurau i fynd i'r afael ag amseroedd aros annerbyniol ar gyfer pobl Cymru yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae pobl Cymru yn ymddangos yn ddigalon ac wedi'u tanseilio oherwydd y sefyllfa annerbyniol hon.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Wrecsam

·         Gogledd Cymru